Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.
WRTH i filoedd o ymwelwyr groesi'r ffin i ymweld Chymru yr haf yma, mae un peth - yn fwy amlwg efallai na dim arall - yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw wedi cyrraedd gwlad arall.
Sn am ein harwyddion dwyieithog ydw i, wrth gwrs - rhywbeth y dylen ni fod yn falch iawn ohono yn arbennig gyda mwy a mwy o ymdrech yn mynd mewn i annog pobol i ddysgu'r iaith.
Yn sicr pan rydw i'n dychweled i'r wlad ar l bod ar wyliau dyna'r peth sy'n fy nharo i gyntaf - ac yn rhoi rhyw wefr gynnes yn fy mron. Arwydd ein bod ni wedi dod adref! Anhygoel, mewn ffordd, i feddwl yn l dros y blynyddoedd am yr holl brotestiadau ac ymgyrchu ffyrnig am yr hawl i gael arwyddion dwyieithog mewn mannau cyhoeddus. Roedd llawer iawn o ymgyrchwyr iaith wedi talu cost personol difrifol weithiau, dirwyon neu garchar hyd yn oed.
Erbyn hyn bron rhan o'r tirlun ydyn nhw, fel papur wal yn y cefndir. Mae'r un peth yn wir am ein siopau ac archfarchnadau hefyd. O Tesco i Sainsbury mae arwyddion dwyieithog yn ein tywys at y silffoedd cig neu frecwast. Ond mae'n deg gofyn ydyn ni'n colli'r ffordd wrth edrych yn fanwl ar rai o'r arwyddion yma. Mae rhai yn chwerthinllyd, mae rhai, yn syml iawn, yn dwp o anghywir. Mae papur bro Y Pentan yng Ngogledd Cymru wedi bod yn eu casglu am beth amser - ac maen nhw'n werth eu rhannu.
Cymerwch chi y cyfieithiad yma o "Wines and Spirits" welwyd mewn siop er enghraifft - "Gwinoedd ac Ysbrydion". Neu "Goods In" wrth ddrws cefn - "Gwyddau i Mewn" (i fod yn honest dwi'n hoff iawn o hwnna 'n hunan).
Dyw rhai eraill ar y llaw arall ddim yn gwneud synnwyr o gwbl - beth am yr arwydd ffordd yma yn gwahardd parcio, "Coets ac llwyth yn unig 30 munud"?
Wedyn mae gyda'r papur rai sy'n llawn gwallau yn y treigladau neu'r gramadeg - "Glanhewch ar 'l eich ci ar y traeth a'r promenad" neu "Uwchben ceblau - overhead cables".
Mae tyfiant y diwydiant cyfieithu wedi bod yn aruthrol, yn arbennig ers sefydlu'r Cynulliad. Ond pwy mewn gwirionedd mae'r cwmnau mawr a'r awdurdodau lleol yn eu cyflogi i wneud y math o waith yma?
Os gwelwch chi rywbeth tebyg ar eich ffordd chi o gwmpas y sir, fyddwn i'n falch iawn o glywed.
l Cysylltwch fi, Eifion Jenkins, o dan ofal y Western Telegraph, Old Hakin Road, Merlins Bridge, Haverfordwest SA61 1XF neu e-bost ej@ macunlimited.net.
Ffin - border Ymdrech - effort Annog - to urge Gwefr - thrill Anhygoel - incredible Ymgyrchu - to campaign Difrifol - serious Dirwyon - fines Carchar - jail Tirlun - landscape Archfarchnad - supermarket Tywys - to lead Chwerthinllyd - laughable Ysbrydion - ghosts Gwyddau - geese Synnwyr - sense Gwahardd - to prohibit Gwallau - mistakes Aruthrol - considerable Cyflogi - to employ
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »