Archive - Thursday, 17 July 2003


Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.

Gyda Llaw

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.

MAE'N haf, mae'n amser sioeau mawr a gweithgareddau awyr agored. Does gyda ni ddim Eisteddfod yn agos i ni eleni, wrth gwrs, ac mae Maldwyn yn bell iawn i ffwrdd i lawer ohonon ni.

Ond mae criw diwyd bro'r Preselau, fel bob blwyddyn, yn cynnig rhywbeth werth ei weld ar Orffenaf 17, 18 a 19 ar Sgwr Maenclochog.

Carnabwth ydy sioe aywr agored Clychau Clochog fydd yn ail-greu ysbryd dyddiau cyffrous terfysgau Beca.

Bydd enwau y rhai sy tu l i'r sioe yn gyfarwydd iawn i ddilynwyr gweithgareddau cerddorol Sir Benfro - sgript gan Hefin Wyn, caneuon gan Tecwyn Ifan, Eifion Daniels, Seimon Morris, cyfarwyddwr David Hedley Williams a chynhyrchydd Derek Williams. Mae'r teitl yn dod o enw un o gymeriadau chwedlonol Gorllewin Cymru, Twm Carnabwth neu Thomas Rees.

O'i fwthyn llwm ar lethrau'r Preselau, arweiniodd fintai o Ferched Beca i ymosod ar dollborth Efailwen deirgwaith yn ystod haf 1839.

Roedd gwerinwyr yr ardal o'r farn mai gorthrwm oedd codi tollborth arall oedd yn costu'n ddrud wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith beunyddiol a hynny'n arbennig achos mai Thomas Bullin, y perchennog, fyddai'r unig un i elwa.

Ar l ddau ymgyrch liw nos yn erbyn a giat, gwnaeth 500 o brotestwyr chwalu'r giat am y trydydd tro liw dydd - a rhoddodd Bullin y gorau i'r syniad o gasglu tollau yn Efailwen. Penderfynodd y gwrthryfelwyr wisgo peisiau, siolau a bonedi am fod yna goel gwlad na fyddai gwragedd yn cael eu harestio. Yn l bob sn, Beca oedd enw'r wraig rhoddodd benthyg y pais i Twm Carnabwth a dyna sut cafodd ei brotestwyr eu henw.

Roedd Twm ei hunan yn ddigon o gymeriad, yn ogystal thipyn bach o ddirgelwch. Roedd arno fe enw am fod yn ymladdwr ffyrnig, tynnwr coes llawn hiwmor ac yn aelod selog hefyd o Gapel Bethel, Mynachlogddu.

Os oes digon o amser gyda chi cyn y sioe mae'n werth ymweld bedd Twm wrth ochr orllewinol y capel a darllen y penill coffa sy'n ychwanegu at y chwedloniaeth amdano ac sy'n tanlinellu ei ddigrifwch ei hun fel tynnwr coes.

Os nad yw hynny yn ddigon i godi awch bwyd arnoch chi, mae'n werth cyfeirio at y traddodiad hir a pharchus yn yr ardal am gynhyrchiadau o safon dros y blynyddoedd. Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau, cysylltwch 01437 532264 neu 532556.

Gweithgareddau - activities Diwyd - diligent Terfysgau - riots Chwedlonol - legendary Llwm - poor, simple Llethrau - slopes Tollborth - tollgate Gwerinwyr - country folk Gorthrwm - oppression Beunyddiol - daily Elwa - to profit Lliw nos - night-time Chwalu - to destroy Lliw dydd - in daylight Gwrthryfelwyr - revolutionaries Peisiau - petticoats Coel gwlad - popular belief Dirgelwch - mystery Ymladdwr - fighter Selog - zealous Tanlinellu - to underline Codi awch bwyd - to whet the appetitie




About cookies

We want you to enjoy your visit to our website. That's why we use cookies to enhance your experience. By staying on our website you agree to our use of cookies. Find out more about the cookies we use.

I agree