Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
Cynhaliwyd Cyfarfodydd Gorffennaf yng Nghapel Seilo, Twffton, ar y 23ain o'r mis.
Llywyddwyd gan y Cadeirydd, y Parchg Llunos Gordon. Croesawyd ni yn wresog gan Ysgrifennydd yr eglwys, Mrs Rhian Taylor a hi hefyd a roddodd fraslyn o hanes yr achos. Croesawyd y Parchg Richard Williams i oedfa'r prynhawn a bu ef yn gyfrifol am ein Harwain mewn gweddi, gyda Mr Norman Davies yn darllen.
Y siaradwr gwadd oedd y Prifardd Eirwyn George a'i bwnc oedd "Golwg ar Fyd yr Emyn" Roedd yn llawn diddordeb a thipyn o hiwmor hefyd. Ar ol te - a diolchwyd i'r gwragedd amdano gan Mr Gwyndaf Tomos - cynhaliwyd y Gynhadledd. Ymhlith y materion a drafodwyd oedd Gynhadledd Diogelwch Plant i'w chynnal ym Mis Medi yn Hermon, Abergwaun, trefniadau ar gyfer stondyn Sioe Amaethyddol Hwlffordd a Apel Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Shalom/Salaam.
Cafwyd adroddiad o'r Undeb yng Nghriccieth gan y Parchg Llunos Gordon. Bum yn llongyfarch yr Ysgrifennydd, Parchg Geoffrey Eynon ar gyrraedd penblwydd pwysig, a dymunwyd yn dda i'r Trysorydd, Miss Mary Trott, sy'n anhwylus. Cymerodd Aedfa'r hwyr ffurf trafodaeth ar y pwnc - 'Archwiliad Cenhadol - Proffil Eglwys'. Roedd y defosiwn yn ngofal dwy o aelodau Seilo sef y Chwiorydd Olwen O'Connor a Rhian Taylor.
Arweiniwyd y drafodaeth gan aelodau o eglwysi Antioch, Penygroes a Fachendre sef y Chwiorydd Nesta George ag Ann Jones a'r brawd Nyfed Griffiths. Hyfryd oedd cael y Parchg Aled ap Gwynedd yn bresennol. Gwnaed y diolchiadau am weithgareddau'r dydd gan Mrs Nesta George a'r organydd oedd Mrs Rhian Taylor.
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »