Archive - Thursday, 28 August 2003


Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.

Gyda Llaw

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.

MAE'R gwyliau yn dod i ben, mae'r plant yn mynd nl i'r ysgol ac mae digon o bwysau hyd yn oed ar oedolion y dyddiau yma i ddysgu sgiliau newydd.

Dyma'r amser felly i feddwl eto am ddysgu Cymraeg, neu yn hytrach, gan eich bod yn darllen y golofn yma, wella safon eich siarad neu ysgrifennu neu gael rhyw fath o gymhwyster.

Dwi'n gwybod, nid dyma'r tro cyntaf i chi feddwl am ei wneud. Efallai eich bod wedi dilyn cwrs o'r blaen ond yn dal i deimlo nad ych wedi cyrraed y safon oech chi'n anelu ato. Mae'n digwydd i bawb. Nid rhywbeth hawdd yw meistroli iaith newydd - ac mae mynd nl ati ar l cyfnod o adael pethau i fynd yn gallu bod yn brofiad llwyddiannus. Maen syndod faint o bethau sy'n gallu suddo mewn pan nad ych chi'n meddwl amdanyn nhw!

Yn sicr does dim gwell gyfleuon wedi bod. Mae sawl canolfan ddysgu yn cynnig amwrywiaeth o gyrsiau - o ddechreuwyr hyd at y rhai profiadol sy'n mo'yn gloywi iaith neu gymeryd y cam mawr dros y bont i fod yn Gymro Cymraeg llawn.

Mae'r pwyslais heddiw ar ddysgu pobol i siarad yr iaith - dynar Wlpan, cwrs carlam sy'n gofyn am o leiaf pedair awr yr wythnos am 30 wythnos.

Gallwch ddilyn hwn gyda chyrsiau uwch o wahanol safonau. Maen nhw'n cael eu trefnu gan Adran Addysg Barhaol, Prifysgol Aberystwyth, a dylech gysylltu , Phyl Brake ar 01570 423332 am ragor o fanylion.

Os oes brys arnoch chi mae hyd yn oed Super Wlpan 300-awr gan Goleg y Drindod, Caerfyrddin - manylion ar 01267 676767. Yr ail lwybr yw'r dosbarth unwaith yr wythnos syn rhoi rhwng 45 a 60 awr y flwyddyn ac mae'n bosibl i ddilyn trywydd y lefelau gwahanol dros gyfnod o bedair mlynedd. Mae Sadyrnau Siarad yn rhoi cyfle ychwanegol i chi ymarfer yr iaith ar yr un pryd.

Mae Sir Benfro yn Dysgu er enghraifft (yr hen Simtra a fu), sydd , chanolfannau yng Nghrymych, Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Arberth, Neyland, Doc Penfro a Dinbych-y-Pysgod, yn cynnig llawer iawn o gyrsiau, yn cynnwys yr Wlpan. Cysylltwch, 01834 860293 yn y lle cyntaf i wybod mwy.

Yn drydydd ych chi'n gallu ei gwneud hi eich hunan. Mae'r BBC yn rhedeg y cwrs radio poblogaidd Catchphrase, mae Acen yn cynnig cyrsiau teledu ac ar y we (HYPERLINK "http://www.acen.co.uk" www.acen.co.uk ), mae Prifysgol Morgannwg yn cynnig cwrs trwy'r post ac mae Prifysgol Llanbedr Pont Steffan yn cynnig dysgu ar y we hefyd. Mae'r cyrsiau i gyd yn gallu arwain at dystysgrif neu gymhwyster o ryw fath ac yn gallu bod yn rhan o'r cynllun Cyfrifon Dysgu Unigol.

Ac wrth gwrs mae digonedd o lyfrau, cyrsiau t,p ac yn y blaen i'u dilyn yn eich amser eich hunan. Dim esgus felly. Beth amdani!

GEIRFA I DDYSGWYR

Pwysau - pressure Cymhwyster - qualification Anelu - to aim Meistroli - to master Suddo - to sink Prfiadol - experienced Gloywi - to polish Pwyslais - emphasis Cwrs carlam - crash course Uwch - higher Manylion - details Os oes brys arnoch - if you're in a hurry Trywydd - trail Ychwanegol - extra Tystysgrif - certificate Cyfrifon Dysgu Unigol - Individual Learning Accounts Beth amdani - how about it




About cookies

We want you to enjoy your visit to our website. That's why we use cookies to enhance your experience. By staying on our website you agree to our use of cookies. Find out more about the cookies we use.

I agree