Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
MEREDYDD Barker, yn wreiddiol o Ogledd Sir Benfro, bellach wedi ymgartrefu yn Arberth yw dramodwr Buzz - cynhyrchiad Cymraeg nesaf Sgript Cymru Pan agorodd drama gyntaf (Saesneg) Meredydd The Rabbit yn Theatr Clwyd, llanwodd y theatr chynulleidfa mewn cariad a'i ffordd o weld y byd - er bod neb wedi clywed ei enw o'r blaen.
Dyma ei ddrama Gymraeg gyntaf - dramodydd talentog sydd ffordd arbennig am godi stwr dramatig mewn dyfroedd tawel.
Yng ngeiriau un o'r actorion, mae hi'n "epig o ddrama, yn theatrig, barddonol, a chwareus" am fachgen o'r enw Ifan sydd yn gweld y byd yn wahanol i chi a fi.
Mae'n gaeth mewn ty ger y mr yn Ne Orllewin Cymru, yn syllu allan dros y mr drwy ei delesgop, a thrwy'r ddrama, yn chwilio am synnwyr. Mae hwnnw yn dod fel petai drwy galeidoscop wedi i'r gwirionedd gael ei liwio, chwyrlo a chwalu gan ei ddwy chwaer.
Mae Meredydd, mab y gantores Ruth Barker, wedi 'dod adref' i ysgrifennu ar l gyrfa fel cerflunydd. Yn Lerpwl dechreuodd ysgrifennu ar lannau'r Ferswy a ffeindio fod y geiriau yn llifo i ysgrifennu The Rabbit, ac yn awr gartref eto yn ysgrifennu Buzz sy'n dod i Neuadd y Frenhines, Arberth, ar ddydd Gwener.
"Mae'n fraint i fod yn teithio yn fy iaith fy hunan, yn 'ngwlad 'n hunan. Dyw e ddim yn dod yn well na hynny," meddai'r awdur, 34 oed.
Cyfarwyddwr y ddrama yw Elen Bowman - cyfarwyddwr Amdani! a enillodd gwobr 'cynhyrchiad Cymraeg gorau' www.theatre-wales.co.uk 2003. Mae Elen yn fwy adnabyddus i bobl yr ardal fel Buddug Morgan (cyn iddi newid ei henw) - merch o Abertawe a chwaer i'r actores Rhian Morgan sydd hefyd yn actio yn Buzz. Dyma'r tro cyntaf i'r ddwy weithio a'u gilydd yn y modd yma. Diddorol wir - gan gysidro mai drama am berthnasau a theulu yw'r ddrama o o o o o o DIOLCH i un o'm darllenwyr am gywiro camgymeriad mewn colofn yn ddiweddar. Wrth sn am y sitcom enwog Fo a Fe, awgrymais fod y Fo oedd Ronnie Williams. Charles Williams, wrth gwrs, oedd yr actor, a chwaraeodd rhan Harry Parry hefyd yn yr opera sebon Pobol y Cwm. Mae'n siwr mai partner Ryan Davies yn y deuawd Ryan a Ronnie oedd yn fy meddwl ar y pryd. Diolch i Mr R S Robertson o Hwlffordd am y gwybodaeth. Awgrymodd, yn garedig iawn, efallai fy mod yn rhy ifanc i cofio. Dim esgus fan'na, Mr Robertson, mae arna i ofn, er gwaetha'r llun ar ben y golofn yma - mae safon yr argraffu mewn papurau newydd yn gwneud gwyrthiau o ran cuddio'r crychau!
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »