Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
YDYCH chi wedi cadw at eich addunedau blwyddyn newydd? Wel peidiwich becso os nad ydych, achos i ni'r Cymry mae'na gyfle arall wrth i ni ddathlu'r Hen Galan.
Mae'r traddodiad yn dyddio nl i newidiad y calendr gan y Pab Gregory pan "gollwyd" 11 diwrnod yn 1752. I lawer o'r bobol werin roedd y newidiadau yn ddirgelwch lwyr ac roedd hyd yn oed derfysgoedd dros y pwnc mewn rhai mannau.
Felly mewn llefydd lle daliwyd at yr hen galendr - yn Llandysul er enghraifft ac yn yr Alban - mae'r Hen Galan yn cwympo ar Ionawr 12. Nid felly yng Nghwm Gwaun sydd yn dathlu'r Hen Galan ar Ionawr 13.
Yn l llawysgrifau yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan dathlwyd yr Hen Galan ar Ionawr 11, 12 neu 13 mewn gwahanol ardaloedd.
Felly cyfle arall i chi wneud adduned - ac fe allech chi wneud yn waeth na dilyn esiampl teulu'r Jonesiaid o Grymych.
Mae cyfres S4C, Ffordd Newydd o Fyw (bob nos Fawrth, 9pm), yn dilyn hynt a helynt pum cartref sy'n cystadlu 'i gilydd i geisio lleihau'r lefelau o garbon deuocsid mae eu ffordd o fyw yn eu cynhyrchu - yn ogystal gwario llai o arian.
Un o'r teuluoedd yw Geraint a Shan Jones sy'n byw gyda'u tri o blant ger Crymych. "Un peth ry'n ni wedi ei wneud yw cyflwyno paneli solar ar do yr hen fwthyn. Ry' ni hefyd wedi insiwleiddio a chael ffenestri dwbl," meddai Shan.
"Mae'r paneli solar yn costio tipyn i ddechrau, ond y gobaith yw y byddwn ni'n arbed arian gan fyddan nhw'n twymo'r dwr bob gwanwyn a haf a pheth o'r gaeaf hefyd."
Ond os nad ydych am fynd mor bell Shan a'i theulu, beth am gychwyn ar eich blwyddyn werdd drwy ailgylchu'r addurniadau Nadolig? Dyma awgrymiadau yr arbenigwr Peredur ap Tomos ar sut i waredu'ch cartref o drimins y Nadolig heb niweidio'r amgylchedd:
* Os oedd gennych goeden Nadolig go iawn, plannwch hi yn yr ardd a'i defnyddio y flwyddyn nesaf. Os nad yw hyn y bosibl, cysylltwch 'r cyngor lleol i drefnu i'r goeden ga el ei hailgylchu.
* Peidiwc h thaflu'ch addurniadau - defnyddiwch nhw y flwyddyn nesaf.
* Ailgylc hwch unrhyw bapurach sydd wedi ymgasglu dros y Nadolig.
* Defnydd iwch fatris y gellir eu hail wefru ar gyfer y teganau newydd.
In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:
Adduned - resolution Hen Galan - old new year Dirgelwch - mystery Terfysg - riot Llawysgrif - manuscript Hynt a helynt - trials and tribulations Lleihau - to lower Ailgylchu - to recycle Addurniad - decoration Awgrymiad - suggestion Arbenigwr - expert Gwaredu - to clear Niweidio - to harm Amgylchedd - environment Ail-wefru - to recharge
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »