Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
TRI chynnig i Gymro neu Gymraes yn l yr hen ddihareb. Dwi'n amhau chewch chi ddim cymaint o ryddid hynny ym materion y galon - ond o leiaf os ydych chi wedi anghofio taw dydd Santes Dwynwen oedd hi ddoe, mae'na gyfle i chi faldodi'ch cariad eto ar Chwefror 14.
Nid y stori fwya rhamantus yn fy nhyb i yw un Dwynwen, gyda hyd yn oed awgrym o drais rhywiol, ond ers y chwedegau mae wedi dod yn ddiwrnod arbennig yn y wlad yma, fersiwn Cymraeg o'r Falentein.
Daeth Dwynwen, tywysoges o'r pumed ganrif, yn nawddsant cariadon Cymru, pan roddodd Duw y gallu iddi wireddu dymuniadau cariadon ym mhob rhan o Gymru.
Er ei bod eisoes wedi dyweddo, cwympodd Dwynwen a Maelon mewn cariad. Gan wybod na allai'r berthynas weithio a gyda Maelon yn methu cymryd na am ateb, ymddangosodd angel ym mreuddwyd Dwynwen a rhewi Maelon, gan ei droi'n flocyn o i.
A'i chalon wedi'i thorri, trodd Dwynwen at Dduw, a gweddo arno i ddadmer Maelon. Er na briododd Dwynwen byth, daeth yn nawddsant cariadon.
Ond fel'na mae cariad - yn drychineb yn ogystal llawenydd. Ac fel yr oedd Gary Slaymaker yn darganfod yn ei raglen Tydi Cariad yn Grt! ar S4C neithiwr, nid y bobol fwya rhamantus ydy'r Cymry.
Roedd Gari, 41 a sengl, yn holi pobl rhwng 18 a 80 oed ledled y genedl am lawer o agweddau ar garu a dtio.
Roedd nifer o wynebau adnabyddus S4C ymhlith y bobl hynny, gan gynnwys y naturiaethwr Iolo Williams, y berfformwraig Caryl Parry Jones, y tiwtor teledu Nia Parry, yr actores Sue Roderick, y teithiwr Dewi Pws, y gyflwynwraig Alex Jones a'r impresario Stifyn Parri.
Ac roedd Radio Cymru ar yr un trywydd heddiw ym Mr o Gariad am 12.15pm pan roedd pedwar cyfranwr yn siarad yn ddi-flewyn ar dafod am eu profiadau o gariad a sut y maen nhw yn delio ag e.
Ac roedd storau i dorri calon yno.
Colli ei fab y gwnaeth Glan Richards o Drebanos er enghraifft, yn ogystal gwraig. Wedi tor-priodas, y canlyniad yw na chaiff weld ei fab ifanc, sydd nawr yn byw yng Nghernyw "O'n i 'na am yr enedigaeth, a ma hwnna'n neud e'n lot fwy caled i gymeryd nawr.
"Y ffaith o'n i 'na am ei eiliade cynta fe, a nawr nagw i'n gweld e o gwbl. Ma fe fel bod mewn carchar heb y gell. Dyna'r unig ffordd alla i ddisgrifio fe."
Felly os ydych chi wedi anghofio Dydd Dwynwen, peidiwch gwneud yr un camsyniad ar Chwefror 14.
In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:
Dihareb - proverb Maldodi - to pamper Trais - violence Rhywiol - sexual Nawddsant - patron saint Gwireddu dymuniadau - to make wishes come true Dyweddo - to get engaged Dadmer - to melt Agwedd - aspect Trywydd - trail Yn ddi-flewyn ar dafod - no holds barred
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »