Archive - Friday, 11 March 2005


Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.

Gyda Llaw

MAE gan ardal Crymych reswm dros ganu yr wythnos yma ar l i bar o gyfansoddwyr ennill cystadleuaeth Cn i Gymru 2005.

Roedd y gn fuddugol, Mi Glywais, wedi'i chyfansoddi gan Guto Vaughan a Dafydd Jones o Flaenffos, aelodau o'r grwp Garej Dolwen, a chafodd ei pherfformio gan Rhydian Bowen Phillips.

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i Guto roi cynnig ar ysgrifennu geiriau, felly cyn y rownd derfynol roedd yn hapus iawn i fod yn yr wyth olaf hyd yn oed.

Yn wir, roedd mewn cwmni da.

Ac wrth ennill, mae hanes yn ail-adrodd ei hun rywfaint. Enillodd tad Dafydd y gystadleuaeth 10 mlynedd yn l gyda'r gn Yr Ynys Werdd a ganwyd gan Gwenda Owen.

Enillodd Guto a Dafydd wobr o £10,000 a bydd y gn yn cynrychioli Cymru yn yr Wyl Ban-Geltaidd yn Tr L yn Iwerddon ddiwedd Mawrth.

Ac mae rhagor o gerddoriaeth dda ar ei ffordd i'n hardal ni gyda cynhyrchiad newydd sbon gan un o gwmnau mwya blaenllaw Cymru, Theatr na n'Og o ardal Castell-nedd.

Melangell yw sioe gerdd sydd nid yn unig yn addas i blant, mae hefyd yn cael ei pherfformio yn y ddwy iaith. Ac mae'r fersiwn Gymraeg yn addas i ddysgwyr, gyda chrynodeb o'r plot i'w gael.

Wedi'i selio ar yr hen chwedl Gymreig, mae'r sioe fywiog a chyffrous yn sicr o hudo a diddanu plant o bob oed.

Ar ffo o'r Iwerddon, mae'r Dywysoges Melangell yn ceisio dianc rhag y briodas sydd wedi'i threfnu ar ei rhan.

Wrth gyrraedd Cymru, daw'r dywysoges hardd o hyd i loches yng Nghwm Pennant - llecyn anghysbell ond prydferth ym mherfeddion Powys, daw Melangell yn ffrind da i'r holl greaduriaid.

Ond un diwrnod, daw tro ar fyd gyda dyfodiad y tywysog barus, Brochwel. Yn poeni am eu bywydau, mae'r anifeiliad yn troi at eu ffrind, Melangell am gymorth.

Perfformiwyd yn gyntaf yn Eisteddfod Meifod gyda 160 o blant yn cymryd rhan. Mae'r cynhyrchiad hon yn cynnwys wyth actor/cerddor brofessiynnol fydd yn gyfarwydd i wylwyr teledu - Phyl Harries (Amdani); Carys Gwilym (Talcen Caled); Neil Williams (Tipyn o Stad); Jennifer Vaughan (Tipyn o Stad); Dyfrig Evans (Talcen Caled); Rhodri Evan (BBC Scrum 4) ac yn cyflwyno dau actor ifanc Elin Llwyd a Daniel Lloyd (A470) fel Melangell a Brochwel.

Dyfan Jones sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth a Bardd y Plant, Tudur Dylan Jones sydd wedi ysgrifennu geiriau'r caneuon.

Cewch weld y cynhyrchiad yn Theatr Mwldan, Aberteifi, ar nos Sadwrn (yn Saesneg) ac ar nos Lun (yn Gymraeg). Am docynnau, ffoniwch 01239 621200.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:

Cyfansoddwyr - composers Buddugol - victorious Rhoi cynnig - to have a go Cynrychioli - to represent Addas - suitable Crynodeb - synopsis Diddanu - to entertain Ar ffo - fleeing Lloches - refuge Anghysbell - isolated Perfeddion - depths Barus - greedy




About cookies

We want you to enjoy your visit to our website. That's why we use cookies to enhance your experience. By staying on our website you agree to our use of cookies. Find out more about the cookies we use.

I agree