Archive - Thursday, 24 March 2005


Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.

Gyda Llaw

YN yr hen ddyddiau roedd dwy ffordd o ddysgu Cymraeg - darllen llyfr neu fynd i ddosbarth nos.

Ond efallai erbyn hyn rych chi wedi dod ar draws Colin & Cumberland, gyfres deledu newydd sy'n cyd-redeg ar BBC1 Wales a BBC2W, gyda rhagor ar Radio Wales.

Mae'r rhaglenni braidd yn swreal yn cynnwys dyn di-waith yn glaf o gariad ynghyd chi sy'n smygu sigars ac yn bwyta Walnut Whips.

Y llais sy tu l y gyfres gartwn yw'r seren roc Stuart Cable. Ers i'r drymiwr gael ei daflu mas o grwp llwyddiannus y Stereophonics, mae wedi ail-greu ei hunan fel seleb a chyflwynydd teledu.

Mae Colin & Cumberland yn cyflwyno gwylwyr i'r pentref Cymreig ffug Aberant gyda'i gymeriadau rhyfedd.

Achos nad yw Colin yn siarad Cymraeg mae'n rhaid iddo ddibynnu ar y Cumberland dwyieithog.

Ac os ydy e am wneud argraff ar y ferch drws nesaf sy'n rhedeg siop y pentref, bydd rhaid iddo ddysgu ambell i air Cymraeg.

Er fod y deialog yn Saesneg gan fwyaf, mae'na gyfle i wylwyr ddysgu tipyn bach o Gymraeg o'r gyfres - a llawer mwy ar y safle we.

Dyna obaith Elwa, y cyngor cenedlaethol er addysg ac hyfforddi, sydd wedi ariannu ymgyrch posteri yn annog pobl i "Bone up on your Welsh".

Mae Colin & Cumberland wedi cael ei anelu at bobl rhwng 18 a 40 ac mae'r safle we bbc.co.uk/colinandcumberland yn llawn gemau i helpu gloywi iaith.

"Hoffai llawer o oedolion yn ddysgu tipyn bach o Gymraeg ond dyn nhw ddim yn teimlo'n barod i fynychu cwrs iaith," meddai un o'r tim cynhyrchu Sioned Wyn Roberts. "Mae'r gyfres animeiddiedig - a'r wefan yn arbennig - yn cynnig y cyfle i gael hwyl tra'n dysgu ychydig o eiriau Cymraeg ar yr un pryd."

AC os ych chi'n un o enwogion Cymru, wrth gwrs, mae'na ffordd arall o ddysgu'r iaith - ar raglen realiti.

Mae Stuart Cable ymysg pump o enwogion sydd wedi derbyn The Big Welsh Challenge with Tanni Grey-Thompson ar BBC1 Wales ar ddydd Llun.

Bydd Stuart ynghyd Derek Brockway, Sin Williams, Suzanne Packer a Steve Meo yn ceisio dysgu Cymraeg dros y ddeuddeg mis nesaf gyda help pobl fel Dewi Pws Morris, Sian Lloyd, Aled Jones, Donna Edwards a Siwan Morris.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.

Claf o gariad - lovesick Ffug - fictional Cymeriadau - characters Argraff - impression Ariannu - to fund Ymgyrch - campaign Annog - to urge Anelu - to aim Enwogion - celebrities




About cookies

We want you to enjoy your visit to our website. That's why we use cookies to enhance your experience. By staying on our website you agree to our use of cookies. Find out more about the cookies we use.

I agree