Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.
MAE tynged ffermio yng Nghymru mor fregus ag erioed, yn arbennig gyda'r bygythiad newydd o haint ar datws. Ond mae ffermwyr ifanc y sir yn dal i fod yn weithgar iawn - fel y gellir ei weld wrth ddarllen tudalen rheolaidd newyddion y symudiad yn y papur yma. Mae'r clybiau yn llenwi bwlch pwysig mewn bywyd gwledig, yn cynnig cyfleuon i bobol ifanc deithio'r byd, datblygu gyrfa neu, yn bwysicach oll efallai, cymdeithasu.
Adloniant hefyd yw un o nodweddion amlwg y symudiad ac eisteddfodau y ffermwyr ifanc, yn lleol ac yn yn genedlaethol, sy'n rhoi un o'r llwyfannau iddyn nhw ddangos eu doniau yn y maes hwnnw.
Yn dilyn ymateb gwych gan wylwyr S4C y llynedd, bydd uchafbwyntiau "yr Eisteddfod Arall", neu Eisteddfod Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, yn cael eu dangos ar S4C eleni. (nos Wener, Rhagfyr 12, am 9 y hwyr).
Roedd tua 200 o ffermwyr ifanc Sir Benfro yn cystadlu yn ddiweddar yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac mae myntai o unigolion a grwpiau wedi mynd ymlaen i gystadlu ar lwyfan eisteddfod genedlaethol y mudiad.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod ym mhafiliwn Corwen ddiwedd mis Tachwedd, pan wnaeth dros 500 o gystadleuwyr o bob cwr o'r wlad dyrru i gystadlu mewn cystadlaethau yn amrywio o sgetsys a deuawdau doniol i rai mwy traddodiadol megis parti unsain a llefaru unigol.
Y brif seremoni oedd y cadeirio, ac yn wahanol i eisteddfodau eraill, gall rhywun ennill y gadair gyda cherdd neu stori fer yn Gymraeg neu Saesneg. Yn l Simon Evans, cadeirydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, "Roedd yr Eisteddfod eto eleni yn llwyddiant ysgubol ac mae hi'n braf gweld y cyfryngau yn rhoi sylw haeddiannol iddi ac i'r dalent aruthrol sydd gennym yma yng Nghymru ym mudiad y Ffermwyr Ifanc." Catherine Ayres fydd yn dilyn hynt a helynt y diwrnod.
Yn l Catherine, "Mi oedd safon y cystadlu yn uchel iawn eleni a dwi'n falch iawn bod y dalent yma yn cael llwyfan ar y teledu bellach. "Dwi'n meddwl mai'r prif wahaniaeth rhwng yr Eisteddfod yma a'r prif eisteddfodau eraill yw bod mwy o ryddid i joio ynddi, yn hytrach na becso am y canlyniadau - llai o gythraul canu yn sicr!
"Dwi'n meddwl mai'r cystadlaethau y gwnes i eu mwynhau fwyaf oedd yr unawd sioe, oherwydd safon uchel y cystadlu a'r gystadleuaeth meimio i gerddoriaeth, sydd wastad yn fy nhiclo!"
GEIRFA I DDYSGWYR / Vocabulary for learners
Tynged - fate Bregus - fragile Bygythiad - threat Haint - disease Gweithgar - active Cymdeithasu - to socialise Nodweddion - characteristics Doniau - talents Uchafbwyntiau - highlights Ysgubol - out-and-out Sylw haeddiannol - the notice it deserves Aruthrol - wonderful Hynt a helynt - goings-on Cythraul canu - disputes
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »