Get involved: send your pictures, video, news and views by texting WT NEWS to 80360, or email
us
Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.
BETH sydd yn gyffredin rhwng yr ymadroddion Saesneg 'Yabba-dabba-do' ac 'I'll kill Kylie'? A beth sydd gyda nhw i ymwneud 'r Gymraeg?
Wel, mae'r ddau yn enghreifftiau o gynghanedd, hen ffordd o sgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg lle mae seiniau yn ateb i'w gilydd yn l rheolau arbennig - rhyw fath o odli mewnol cymhleth iawn.
Ac mewn ymgais i ddenu pobl i ddysgu Cymraeg trwy farddoniaeth mae'r prifardd a chyflwynwraig teledu Mererid Hopwood wedi cyhoeddi llyfr newydd yn esbonio'r grefft. Mae cynghanedd mor hen 'r iaith ei hunan ond yn fyw iawn heddiw yng gwaith beirdd cyfoes.
Mererid, sydd 'i gwreiddiau yn ddwfn yng Ngogledd Sir Benfro, oedd y fenyw gyntaf i ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ers hynny wedi ennill y Goron. Mae hi nawr yn gweithio fel darlithwraig ym Mhrifysgol Abertawe ac yn byw yng Nghaerfyrddin.
Mae ei llyfr "Singing in Chains" yn trafod y grefft o gynghanedd, sydd yn agos iawn at gerddoriaeth ac yn ymddangos yn gyntaf mewn ysgrifau o'r chweched ganrif.
Yn nyddiau y beirdd llys profesiynol, roedd yn cymryd hyd at naw mlynedd i ddysgu'r rheolau ond mae Mererid yn dadlau y gall cynghanedd ryddhau'r ysybryd creadigol ac yn galluogi pobl i sgrifennu gwaith hyfryd.
Mae hi hefyd yn rhoi enghreifftiau o'r grefft mewn sloganau a hysbysebiadau Saesneg heddiw.
"Fy ngobaith yw y bydd y llyfr yn annog pobl, yn enwedig y rhai sy wedi symud mewn i Gymru, i ddarganfod mwy am ddiwylliant y wlad a dysgu'r iaith," meddai. Mae CD yn dod gyda'r llyfr i helpu dod chynghanedd yn fyw.
Mae "Singing in Chains" yn cael ei gyhoeddi gan Gomer.
Mae cyfres newydd o Chwarae Teg wedi dechrau ar BBC Radio Cymru gan barhau i ddatrys materion defnyddwyr yng nghwmni Sin Thomas a thm o arbenigwyr sy'n awyddus i dderbyn her a datrys mwy o achosion.
Yn ystod y cyfresi diwethaf fe lwyddodd Chwarae Teg i ganslo bil trwsio car - cyfanswm o £1,318.04. Daeth gyda_llaw da hefyd i ddyn a dderbyniodd ad-daliad o tua £300 gan gwmni ffn symudol tra gafodd menyw arall ffn symudol newydd sbon a mis o rent ei llinell am ddim!
Does dim ots pa mor fach yw'r golled - £10 neu £1,000 - mae croeso i chi gysylltu'r criw. Ffoniwch ar 02920 322 800 neu e-bostiwch chwaraeteg@bbc.co.uk.
Mae'r rhaglen i'w chlywed bob dydd Mercher am 12.15pm a dydd Sul am 1.40pm.
In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:
Ymadroddion - phrases Cynghanedd - ancient form of internal rhyming in Welsh poetry Odli - to rhyme Cymhleth - complex Cyfoes - modern Rhyddhau - to liberate Hysbysebiad - advert Annog - to encourage Datrys - to solve Defnyddwyr - consumers Ad-daliad - refund
Find a job in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a date in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a home in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »
Find a car in Haverfordwest and Pembrokeshire
Search Now »