Archive - Thursday, 16 June 2005


Never miss anything again. Sign up for our RSS news feeds and Newsletters.

Gyda Llaw, June 15th

BYDD un o'r digwyddiadau mwya pwysig ardal Arberth yn cwympo yn agos at un o wyliau mawr y calendr Cymreig y mis yma.

Cysylltir Gwyl Ifan ar Fehefin 24 dathlu canol haf ar Fehefin 21, gyfnod pan fo'r haul yn cyrraedd i uchafbwynt ac - peidiwch sn - cyn i'r dyddiau ddechrau byrhau unwaith eto.

Ond gobeithio y bydd yr haul yn dal i wenu ar drannoeth Gwyl Ifan pan gaiff castell hanesyddol Arberth ei hagor i'r cyhoedd.

Gwyl baganaidd oedd gwyl ganol haf, ond plannodd y Cristnogion wyl grefyddol yn agos ati, ar Fehefin 24, i goffau geni Ioan Fedyddiwr (chwe mis cyn Nadolig).

Er hynny, yn raddol symudwyd defodau a thradoddiadau paganaidd yr hen wyl i'r un newydd.

Oherwydd ofn ysbrydion drwg a phwerau goruwchnaturiol, roedd yn draddodiad i gynnau coelcerthi a chanwyllau i atgyfnerthu ynni'r haul.

Roedd pobl yn credu hefyd bod modd rhagweld y dyfodol o safbwynt pwy fyddai'n gariadon a phwy fyddai farw yn ystod y flwyddyn i ddod.

Mewn rhai ardaloedd fyddai'r fedwen haf yn cael ei pharatoi a'i chodi ar Noswyl Ifan ac roedd rhaid ei gwarchod yn ofalus rhag fechgyn o blwyfi cyfagos oedd yn ceisio ei dwyn.

Byddai colli'r fedwen yn adlewyrchu'n wael ar wrywdod dynion y plwyf ac, os ei cholli, doedd dim hawl codi un arall, rhaid oedd ei chipio o blwyf arall.

Y nod oedd treulio Dydd Gwyl Ifan yn dawnsio o gwmpas y fedwen haf.

Ac efallai cewch weld cryn dipyn o ddawnsio ar Fehefin 25 yn Arberth wrth i'r dref ail-agor ei chastell.

Cafodd ei hadeiladu gan Andrew Perrot yn y trydydd ganrif ar ddeg ond ymosodwyd arni - ac ei dinistriwyd yn rhannol - yn 1257 gan Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Un o'r perchnogion mwya enwog oedd Sir Rhys ap Thomas a gafodd y castell oddiwrth Henry VIII am ei wasanaeth milwrol i'r brenin.

Mae'n dal mewn dwylo preifat ac ar l dros pedair canrif o ddiofalwch, mae'r corff cyhoeddus Cadw wedi buddsoddi arian mawr i'w gwneud yn ddiogel a'i hagor i'r cyhoedd unwaith eto.

Achlysur mawr a dathlu mawr felly ar drannoeth Gwyl Ifan gyda llond ddiwrnod o adloniant.

Fydd plant yr ardal yn cymryd rhan mewn drama fer fydd yn adlewyrchu rhan Arberth yn chwedlau'r Mabinogion ac anturiaethau hela'r Twrch Trwyth.

Mae'r adloniant, yn cynnwys pasiant gan The Noble Knights of the Longshanks a cherddoriaeth gan Judith Silver, Coughlan's Heroes and Bongo Clive ymysg eraill, yn rhedeg o un o'r gloch hyd at naw yr hwyr.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.

Byrhau - to shorten Trannoeth - the day after Coffau - to commemorate Ioan Fedyddiwr - John the Baptist Defodau - customs Goruwchnaturiol - supernatural Coelcerthi - bonfires Bedwen haf - summer birch Gwarchod - to guard Gwrywdod - manliness Ymosod - to attack Dinistrio - to destroy Diofalwch - neglect Buddsoddi - to invest Adlewyrchu - to reflect Twrch Trwyth - the Giant Boar




About cookies

We want you to enjoy your visit to our website. That's why we use cookies to enhance your experience. By staying on our website you agree to our use of cookies. Find out more about the cookies we use.

I agree