MAE'R grwp poblogaidd y Dhogie Band o Sir Benfro wedi rhyddhau albwm newydd sy'n talu teyrnged i gorllewin gwyllt Cymru, gwlad y gân a storiau.

Mae'r casgliad Cymraeg diweddara - "O'r Gorllewin Gwyllt" - yn mynd ar siwrnai trwy olygfa arw o'r ardal arbennig hon o Gymru gan gwrdd â rhai cymeriadau unigrwy Sir Benfro ar y ffordd.

Mae degawdau o chwarae a recordio wedi arwain at y cyfuniad gorau.o gerddorion.

Mae'r cyfansoddiad presennol y grwp yn asio ynni'r aelodau ifancaf sef drymwr Iwan Hughes sy hefyd yn canu a Reuben Wilsdon-Amos sy'n chwarae'r gitar a chanu, gyda phrofiad aelodau gwreiddiol y grwp - Eric Nicholas ar yr allweddellau a John Humfrey sy'n canu a chwarae gitar - ac Edward Hughes yn y canol ar y gitar bas a chanu.

Mae'r Dhogie Band yn llenwi llefydd dawnsio dros Gymru a thu hwnt, ac mae'r albwm wedi ei recordio yn ystod y misoedd diwethaf yn Stiwdio NSL Trefdraeth.

Dywedodd John: "Mae'r grwp wedi bod yn chwarae ers 47 mlynedd a ni'n dal i fwynhau chwarae, cyfansoddi a recordio. Roeddem ni'n meddwl bod hi'n hen bryd i ni recordio albwm Cymraeg newydd. Rydym ni'n falch iawn i gyflwyno rhai caneuon newydd a gyfansoddwyd gan Edward Hughes ac mae'r albwm yn cynnwys rhai caneuon gwreiddiol sy'n cael derbyniad da yn ystod gigs y Dhogie Band."

Mae swn unigryw y Dhogie Band yn amlwg trwy'r albwm, gyda harmoniau prydferth, lleisiau atgofus a rhai caneuon newydd sbon i fobl wrando a dawnsio.

Mae'r caneuon yn adlewyrchu diwrnodau heulog ar arfordir Sir Benfro ac ar y Preselau, chwedlau ac etifeddiaeth leol, ac unigolion sydd wedi gwneud argraff ar y sgrîn neu yn y sgwâr reslo.

Mae'r albwm yn cynnwys hefyd rhai clasuron poblogaidd fel "Pishyn" a "Cân Walter" a fydd y CD ar gael o wefan y Dhogie Band, www.dhogieband.com, siopau lleuol, itunes a storfeydd digidol eraill neu yn uniongyrchol o'r Dhogie Band yn ystod gigs – dilynwch "DhogieBandJohn" ar Facebook am fanylion.