RALI Cymreigio Cyngor Sir Benfro: Ein hiaith ni – eu hiaith nhw?

Fel un o drigolion Sir Benfro hoffwn annog pawb yn y sir i ddod i rali Cymdeithas yr Iaith i ddangos i’r Cyngor Sir y dylai’r Gymraeg fod yn iaith iddyn nhw – gan ei bod yn iaith i ni gyd yn y sir. Byddwn ni’n cwrdd am hanner dydd ddydd Sadwrn nesaf, yr 8fed o Fawrth ar Sgwâr y Castell yn Hwlffordd.

Bydd cyfle i glywed gan Mererid Hopwood, Hefin Wyn a phobl ar draws y sir am fethu cael gwersi nofio yn Gymraeg i’r angen am addysg Gymraeg a phryder am effeithiau toriadau i wasanaethau ar yr iaith. Byddwn yn canolbwyntio ar agwedd y Cyngor tuag at y Gymraeg – a ddaeth yn amlwg rai wythnosau yn ôl wedi i’r Cyngor hysbysebu swydd a rhoi’r argraff fod y Gymraeg yn ddim mwy na mater cwrteisi a iaith i rannau o’r sir, ac enghreifftiau o bob math. Yn bwysicach, bydd cyfle i chi rannu eich profiadau chi – ar lafar neu ar bapur.

Dyma’r rali gyntaf i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn Hwlffordd, a’r gyntaf yn Sir Benfro ers blynyddoedd felly mae’n addas iawn i ni ddangos i’r Cyngor Sir fod angen a chyfle iddyn nhw ddechrau cymeryd y Gymraeg o ddifrif.

Ymunwch i alw arnyn nhw i wneud y Gymraeg yn iaith i bawb a rhannu eich profiadau chi.

AS A resident of Pembrokeshire I would like to encourage everyone in the county to attend a Cymdeithas yr Iaith (the Welsh Language Society) rally to persuade the county council that they should use the Welsh language - as it belongs to all of us in the county.

We will meet at noon next Saturday, the March 8 at Castle Square in Haverfordwest.

Addressing the rally will be Mererid Hopwood and Hefin Wyn and there will be a chance to hear the experiences of residents across the county, ranging from the lack of swimming lessons in Welsh, to the need for Welsh medium education in the south of the county and concern about the effects of cuts to services on the language.

We shall be focusing on the council’s attitude towards the Welsh language – which became clear when the council advertised a job vacancy giving the impression that the Welsh language is nothing more than a matter of courtesy and a language only for some areas of the county.

More importantly, it will allow you to share your experiences - verbally or in writing.

This will be the first rally that Cymdeithas yr Iaith have held in Hwlffordd (Haverfordwest) and the first in Pembrokeshire for some years, so it is fitting for us to show the county council the need and the opportunity for them to start taking the Welsh language seriously.

Join us in calling on them to make Welsh a language for everyone and to share your experiences.

BILL DAVIES,

Hermon