Cynhaliwyd dwy oedfa i ddathlu deugain mlynedd o wasanaeth y Parch Eirian Wyn Lewis yn y weinidogaeth ynghyd â deugain mlynedd yn weinidog ar eglwysi Bethel, Mynachlog-ddu a Horeb, Maenclochog.

Cynhaliwyd oedfa gymun undebol yn Horeb, Maenclochog, ar Hydref 6 o dan arweiniad y gweinidog y Parch Eirian Wyn Lewis, yn dilyn yr oedfa cinio hyfryd yn Neuadd Maenclochog a baratowyd gan Ian Eynon yn rhoddedig gan aelodau eglwys Horeb.

Y Sul canlynol ar Hydref 13 daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i Fethel, Mynachlog-ddu, i ddathlu'r bennod bwysig yn eu hanes.

Y gweinidog gwadd i fregethu oedd y Parch Irfon C Roberts, Aberteifi.

Cymerwyd rhan yn yr oedfa gan y Parchn Ken Thomas, D Densil Morgan, Huw George, a chân gan y ddwy chwaer Beti a Siân, a'r organyddes oedd Rhian Davies.

Yn ystod yr oedfa cafwyd cyfarchion gan dri o feirdd sy'n aelodau ym Methel sef Cerwyn Davies, Eifion Daniels a Wyn Owens.

I derfynu'r dathlu aethbwyd i'r festri i gael lluniaeth moethus a baratowyd gan Manon Rees a gwragedd yr ofalaeth.

Cyflwynir offrymau'r cyrddau Diolchgarwch a'r dathliadau yr ofalaeth i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sef £825.

Tranoeth y dathlu roedd y Parch Eirian Wyn Lewis ac eraill yn hedfan allan i Batagonia am wyliau.