Cafodd Cylch Meithrin Penparc lwyddiant ysgubol ym mhedwaredd seremoni’r Gwobrau Mudiad Meithrin yn ddiweddar.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad, a chafwyd cannoedd o enwebiadau eleni eto gan rieni’r plant sy’n mynychu’r cylchoedd meithrin.

Enwebwyd cylch Penparc mewn pump o wyth categori cymwys, ac aeth y staff ac aelodau pwyllgor i Theatr y Werin yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar Hydref 19 i gasglu eu tystysgrifau.

Cipiodd y cylch y wobr gyntaf yng nghategorïau Pwyllgor ac Ardal Allanol, ar ôl creu argraff dda gyda’i system dalu newydd, rhoi’r cynnig gofal 30 awr ar waith a hefyd ennill nifer o grantiau i wella’r cyfleusterau.

Cafodd Mary Short ei chydnabod hefyd yn yr ail safle yng Nghymru yn y categori Cynorthwy-ydd, er clod i’w hymroddiad i blant y cylch.

I goroni’r cyfan, enillodd y cylch ddwy wobr yn y trydydd safle yng nghategorïau Cynhwysiant a Dewin a Doti.