Western Telegraph:

Mr R Rogers

Saundersfoot

A LARGE crowd of family and many friends attended Parc Gwyn Crematorium on Tuesday January 14 for the funeral of Rory Rogers of Saundersfoot.

Rory, who was 32, passed away suddenly but peacefully at Ty Cwm Care Home, Johnstown, Carmarthen on Sunday December 28, 2019.

A native of Saundersfoot, Rory was a fully-qualified plumber, who loved his surfing, travelling, music and cooking.

Family left to mourn are his father Tony Rogers; sisters Kaya Rogers, KT Morgan and Debbie Whitfield; brother Stephen Clements; Nan and Granfer, Audrey and Dennis Cox; aunties Debbie Rogers, Linda Cox, Nicky Walters and Sue Owen; uncle Kenny Rogers; nieces Inaya and Alyssa; nephews Ioan and Rory and cousins Gary, Suzanne, Jade, Becky, Loren, Holly and Jake.

The service was led by the Rev Huw George and the bearers were Gary Cunningham, Paul Jenkins, Roo Rees, Mathew Tuttle, Benji Frost and Luke Wallis.

Refreshments followed at the Wisemans Bridge Inn.

Donations, if so desired, may be made for Leonard Cheshire, Ty Cwm Care Home, c/o E.C. Thomas & Son, Funeral Directors, Zoar Chapel Funeral Home, Llanteg, Narberth, SA67 8QH.

Mrs M A E Griffiths

San Clêr

Trist yw cofnodi marwolaeth Mrs Margaret Griffiths, Cartref Clyd, Lôn Hafren, San Clêr, yn ei chartref, gyda’i theulu o’i chwmpas, ar 29ain Medi 2019.

Priod hoff Dewi; mam dyner Bonni, Hywel, Wynne, Elfan, Ieuan, Eluned ac Olwena; mam-yng-nghyfraith barchus Vivian, Jude, Delyth, ac Iona; mam-gu gariadus i ugain o wyrion ac wyresau; hen fam-gu i 38 gorwyrion a gor wyresau.

Ganwyd Margaret yn Rhydiau, Cwm Gwaun, 87 mlynedd yn ôl ac yng nghyffiniau Cwm Gwaun, Trefdraeth a Brynberian y gwnaeth ei chartref hyd nes ei phriodas â Dewi Griffiths, Llanboidy yn 1952. Bu’r ddau’n byw ar hyd eu bywyd priodasol yn ardal Llangynin a Phwlltrap cyn ymddeol i San Clêr. Uchelgais ei bywyd oedd mynd yn nyrs a gwireddwyd y freuddwyd honno ar ôl magu’r plant gan lwyddo yn eu harholiadau SEN yn 1977. Bydd llawer yn cofio amdani yn y rôl honno yn Ysbytai Priordy a Glangwili, Caerfyrddin.

Cyfyngwyd Margaret i gadair olwyn ers yn agos i bymtheg mlynedd a bu gofal ei phriod Dewi amdani yn arbennig iawn. Roedd dim byd yn ormod iddo wneud iddi. Bu’r gofalwyr a alwodd yn y cartref bedair gwaith y dydd dros y blynyddoedd diwethaf yn anhygoel hefyd a thyfodd perthynas arbennig rhyngddynt â hithau. Dioddefodd y cyfan heb un achwyniad ac roedd yn ddiolchgar iawn i bob un – yn deulu ac yn ffrindiau – a fyddai’n galw heibio gyda’r ddau yn eu cartref bach cysurus, Cartref Clyd.

Roedd y gynulleidfa fawr a ddaeth ynghyd i’r gwasanaeth cyhoeddus ym Methlehem Pwlltrap ar y 4ydd o Hydref yn dyst o boblogrwydd y ddau yn y gymdeithas. Oherwydd salwch ei gweinidog, y Parchg Rhodri Glyn Thomas, gwasanaethwyd yn y tŷ, y capel a’r fynwent gan y Parchg Alwyn Daniels, gweinidog Cylch Carn Ingli sy’n cynnwys capel Jabes Cwm Gwaun lle magwyd a phriodwyd Margaret; a Chaersalem lle mae’r ferch hynaf yn aelod. Talwyd teyrngedau i’r ymadawedig gan y Parchg Alwyn Daniels a Stewart Griffiths (ŵyr). Yr organyddes oedd Mrs Joan Evans.

Rhoddwyd y taflenni allan gan Lloyd Davies, John James, Rhonna Thomas Phillips a Nerys Rogers.

Y prif alarwyr oedd Dewi Griffiths (gŵr); Vivian a Bonni Davies; Hywel a Jude Griffiths; Wynne a Delyth Griffiths; Ieuan a Iona Griffiths; Eluned ac Olwena Griffiths (plant a phlant yng nghyfraith); Elfan Griffiths a Claire Nicol (mab a’i bartner); Hedd a Siân Davies; Enfys a Chris Howells; Rhodri a Tracy Davies; Rebekah Rose a Jim Lyons; Rachel and Gareth Lloyd-Davies; Rhaea Mahoney; Jemma Griffiths; Catrin Griffiths; Gafin a Selina Griffiths; Eleri Thomas; Iain Griffiths; Stewart Griffiths a Cheryl Houston; Siriol Robinson a Nia Booth; Michael Jenkins a Jessica; Elinor a Richard Jones; Barry Jenkins; Robert a Sam Jenkins; Stephen a Christopher Jenkins; (wyrion ac wyresau a’u partneriaid); Trefor Griffiths; Mair a Ronnie Morgan; Eifion a Violet Griffiths (brodyr yng nghyfraith, chwaer yng nghyfraith a’u partneriaid. Roedd nifer fawr o’r gor-wyrion hefyd yn bresennol ynghyd ag Elfed a Carl a gafodd gartref ganddynt am nifer o flynyddoedd. Hefyd yn bresennol yr oedd llu o berthnasau eraill rhy niferus i’w cofnodi.

Yr archgludwyr oedd ei meibion Hywel, Wynne, Elfan ac Ieuan. Rhoddwyd plethdorchau gan y teulu agos a derbyniwyd rhoddion tuag at ‘Diabetes UK Cymru’ trwy law Ken Davies a’i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Blaenwern, Clunderwen.