Trefnwyd ail gyfarfod gangen Merched y Wawr Ffynnongroes ar Fawrth 11 gan ddefnyddio rhaglen Zoom.

Pawb yn dechrau cael hwyl wrth ddefnyddio’r dechnoleg newydd. Noson yn trafod ffeithiau gwir neu gelwydd am ein hunain. Cyfle i ddod i nabod ei gilydd yn well wrth glywed ffeithiau diddorol… ond ddim yn siŵr beth oedd yn gywir neu’n gelwydd, gyda lot o chwerthin!

Hefyd ail gyfarfod Zoom cangen MyW Dinas, aelodau yn cael hwyl wrth drafod ac adrodd hanes eu hoff eitem. Clwb Gwawr Clydau hefyd yn defnyddio Zoom i gadw mewn cyswllt a chynnal cyfarfodydd.

Gwelir dau aelod blaenllaw'r rhanbarth Penfro, sef Aeres James o gangen Trefdraeth ac Ann Howells o gangen Tegryn, yn diddori’r genedl trwy gyfrwng Zoom.

Ar ddau fore Sadwrn dangoswyd eu doniau crefftus. Aeres yn cynnal cwrs crefft i greu blodau syml wrth ail-gylchu nwyddau oedd gyda phawb yn y tŷ.

Ann Howells yn arddangos sut i greu draenog, coeden Nadolig a llygoden wrth ail ddefnyddio llyfrau bach clawr medal.

Cwis llywydd y Rhanbarth - Y Goron Drifflig i gangen Blaenffos, llongyfarchiadau mawr am ddod i'r brig am y trydydd tro yn olynol.

Trefnwyd noson Zoom cenedlaethol hyfryd yng nghwmni Wendy Davies o fusnes Wendy Blodwen yn arddangos sut i drefnu blodau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Cynhaliwyd noson Zoom y tri rhanbarth, gydag 'Adam yn yr Ardd'. Llongyfarchiadau i Janet Williams Cangen Bro Barti Ddu ar ennill Calendar Adam ar ôl ateb holl gwestiynau’r cwis yn gywir. Mynychodd nifer o ferched rhanbarth Penfro gyfres o gyfarfodydd Zoom cenedlaethol.

Gwelwyd yr awdures Bethan Gwanas yn sôn am yr hyn sydd yn ei hysbrydoli wrth ysgrifennu llyfrau. Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda chyfarfodydd Zoom trwy gydol y dydd, sef Mawrth 8.

Cafwyd cwmni’r hanesydd Sara Huws, yr awdures Megan Angharad Hunter ac i orffen y diwrnod cwmni Bethan Richards ysgubwraig simnai.

Trefnwyd cyfarfod Zoom yn dathlu Casgliadau Merched gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Trefnwyd ail noson Zoom tri rhanbarth gyda Dorian Morgan o Lambed, wrth iddo dywys aelodau drwy brifddinasoedd Ewrop gyda digon o storiâu digri.

Ar gyfer mis Ebrill mae’r mudiad cenedlaethol wedi trefnu her i’r aelodau sef Curo’r Corona’n Camu. Cyfle i gyfri eich camau o gwmpas y tŷ neu wrth fynd am dro.

Prif nod y sialens yw codi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd i symud ychydig bob dydd, cael rhywbeth i ffocysu arno yn ddyddiol i helpu cadw’r meddwl yn iach ac yn fwy na dim, cael y cyfle i fod yn rhan o weithgaredd cenedlaethol. Cyfle i gael ychydig o hwyl, gan ddilyn canllawiau Covid bob tro.

Ar Ebrill 8 fuodd cangen MyW Ffynnongroes yn cynnal y trydydd cyfarfod Zoom ac yn cael eu diddori gan yr hanesydd lleol Dr Delun Horton (Gibby).

Noson hynod o ddiddorol wrth i Delun arwain yr aelodau gyda chyflwyniad pwynt pŵer, trwy hanes ffasiwn a gwisgoedd 'Merched trwy'r Oesoedd'. Gwelwyd y gwahanol ddatblygiadau a dylanwadau ffasiwn ddillad sydd wedi ac yn dal i ysbrydoli merched i fod yn fentrus trwy'r oesoedd.

Ar Ebrill 12 cynhaliwyd cyfarfod Zoom tri rhanbarth Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, gyda Wyn Thomas o’r elusen Tir Dewi. Elusen sydd yn ymwybodol o heriau gwaith ein hamaethwyr o ddydd i ddydd.

Mae Tir Dewi yn deall llawer am y materion sydd yn wynebu ffermwyr yn ein cymunedau. Mae Tir Dewi yn gynnig clust i wrando, yn cynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol.

Am fwy o wybodaeth am weithgareddau mudiad Merched y Wawr ewch i merchedywawr.cymru neu dudalen Weplyfr Merched y Wawr.