Mae cangen Merched y Wawr Ffynnongroes wedi cael haf prysur gyda nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys urddo llywydd cenedlaethol y mudiad, Jill Lewis, o gangen Mynachlog-ddu.

Ar Orffennaf 8, bu criw o ferched y gangen yn casglu sbwriel o amgylch eu hardaloedd lleol.

Pawb yn dod at eu gilydd wedyn i gael Pimms a Pwdin tu allan i neuadd Ffynnongroes. Diolchwyd i Nest a Rhian am y diod a’r bwyd blasus iawn.

Swyddogion newydd y gangen am y flwyddyn i ddod fydd Pam Griffiths a Rhian Selby gan edrych ymlaen i gyd gwrdd unwaith yn rhagor yn mis Medi. Dilynwch tudalen Weplyfr y gangen am fwy o wybodaeth.

Bu aelodau of Ferched Y Wawr Rhanbarth Penfro yn cael diwrnod i’r brenin ar daith gerdded y rhanbarth ar Orffennaf 10 ym Mharc Gwledig Llys-y-Frân, sydd wedi ail agor ar ei newydd wedd.

Cyfle i fynd am dro o amgylch y llyn neu gerdded yn hamddenol i weld y gronfa ddŵr ac atyniadau eraill y parc. Pawb wedi dod a phecyn bwyd ac yn mwynhau bwyta wrth edmygu’r golygfeydd godidog.

Fe fydd cyfarfod nesaf rhanbarth Penfro yn rhithiol ar Fedi 20. Bwriedir cynnal y cyfarfod/cinio blynyddol yng Ngwesty Nantyffin, nos Wener, Hydref 22.

Cynhaliwyd seremoni urddo Jill Lewis yn lywydd cenedlaethol Merched y Wawr Cymru, ar Fehefin 26 wrth ymyl Carreg Waldo. Anrhydedd o fry i gangen Mynachlogddu a hefyd i ranbarth Penfro. Rhoddwyd dymuniadau gorau i Jill yn ystod ei swyddogaeth.