Learners who recently finished school, and are still undecided about what to do next, should consider the options available to them at Pembrokeshire College.

 

Offering the broadest range of courses available in the county including Apprenticeships, Extended Diplomas and a choice of 27 A-level subjects, Pembrokeshire College is a great option for young people looking to continue their education and build the skills either for employment or progression to university. Vocational courses on offer include: business, engineering, childcare, computing, graphics, construction, sport, public services, animal care, hospitality, hairdressing, performing arts and sustainable design plus lots more including traineeship programmes for those with no or few GCSEs. 

 

Great facilities for learning

Within its modern campus, the College is equipped with some fantastic facilities for learning including industrial kitchens, engineering workshops, art studios and a theatre. Our lecturers are all qualified teachers and many have a wealth of industry experience which they are able to pass directly to their students.

 

The College also prides itself on the level and breadth of support that it is able to offer learners. In the newly opened Support Hwb learners can access a full range of support services including: Learning Support, Learner Coaches, Skills Support Advisors, Student Finance, Careers Guidance, Work Placement Officers, as well as a College Nurse, Chaplain, Counsellor and Youth Worker.

 

If you’re unsure what to do next, our Admissions Team are available to offer young people impartial advice and guidance. To find out more call Admissions on 0800 9 776 788.  

Western Telegraph:

 

Dylai dysgwyr wnaeth orffen yr ysgol yn ddiweddar, ac sydd dal heb benderfynu beth i'w wneud nesaf, ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddynt yng Ngholeg Sir Benfro.

 

Yn cynnig yr ystod ehangaf o gyrsiau sydd ar gael yn y sir, gan gynnwys Prentisiaethau, Diplomâu Estynedig a dewis o 27 pwnc Lefel-A, mae Coleg Sir Benfro yn opsiwn gwych i bobl ifanc sy'n dymuno parhau â'u haddysg ac adeiladu'r sgiliau naill ai ar gyfer cyflogaeth neu symud ymlaen i'r brifysgol.  Ymhlith y cyrsiau galwedigaethol a gynigir mae: busnes, peirianneg, gofal plant, cyfrifiadura, graffeg, adeiladu, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, gofal anifeiliaid, lletygarwch, trin gwallt, celfyddydau perfformio a dylunio cynaliadwy ynghyd â llawer mwy gan gynnwys rhaglenni hyfforddeiaeth ar gyfer y rheini sydd heb neu ychydig o gymwysterau TGAU.

 

Cyfleusterau gwych ar gyfer dysgu

O fewn ei gampws modern, mae gan y Coleg gyfleusterau dysgu gwych, yn cynnwys ceginau diwydiannol, gweithdai peirianneg, stiwdios celf a theatr. Mae ein darlithwyr i gyd yn athrawon cymwysedig ac mae gan lawer ohonynt gyfoeth o brofiad diwydiant y gallant ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'w myfyrwyr.

 

Mae'r Coleg hefyd yn ymfalchïo yn lefel ac ehangder y gefnogaeth y gall ei gynnig i ddysgwyr. Gall dysgwyr gael ystod lawn o wasanaethau cymorth yn y ganolfan Hwb newydd: Cymorth Dysgu, Anogwyr Dysgu, Cynghorwyr Cymorth Sgiliau, Cyllid Myfyrwyr, Arweiniad Gyrfaoedd, Swyddogion Lleoli Gwaith, yn ogystal â Nyrs y Coleg, Caplan, Cwnselydd a Gweithiwr Ieuenctid.

 

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud nesaf, mae ein Tîm Derbyn ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad diduedd i bobl ifanc. I ddarganfod mwy, ffoniwch Derbyniadau ar 0800 9 776 788.