Ar ôl peidio â chwrdd am dros flwyddyn oherwydd Covid-19, mae teithiau Cerddwyr Cylch Teifi wedi ailddechrau – ond gydag ychydig o newidiadau.

Un peth sy wedi newid yw peidio trefnu rhaglen y flwyddyn ymlaen llaw, gan drefnu fesul mis neu ddau, er mwyn gallu addasu fel bydd angen er mwyn cydymffurfio â rheolau Covid Cymru wrth iddynt newid.

Oherwydd hyn, ni fydd y grwp yn hysbysebu yn y papurau bro bellach, gan fod pethau’n gallu newid ar fyr rybudd. Ond mae croeso i bawb sydd eisiau i gysylltu er mwyn bob ar y rhestr e-bostio i gael y manylion fis neu wythnos ymlaen llaw.

Fel o’r blaen, mae pob taith yn dechrau am 10.30yb. ar ddyddiau Sadwrn ond heb glymu’n rhy haearnaidd at orffen erbyn 12.30 nac at yr ail Sadwrn yn y mis.

Ni fydd man i gymdeithasu wedi'i drefnu ar ôl y teithiau er mwyn peidio annog pobl i gwrdd dan do, ond gall cerddwyr wneud fel y mynnant wrth gwrs.

Mae'r grwp hefyd yn gofyn i’r cerddwyr

• Sicrhau eu bod wedi cael y brechiadau sydd ar gael iddynt;

• Ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;

• Ac wrth gwrs, peidio â dod i daith os ydyn nhw'n hunan-ynysu, neu dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Gan ailddechrau fis Hydref 2021, erbyn hyn ame'r cerddwyr wedi cael teithiau yn yr ardaloedd hyn: Llandudoch, gyda Terwyn Tomos; y Ganolfan Bywyd Gwyllt, Cilgerran, gyda Howard Williams; ar hyd yr afon tua’r môr o Aberteifi gyda Siân Bowen; Cofeb Waldo a Glynsaithmaen gyda Hefin Wyn, a bydd taith Chwefror yn Llangrannog gyda Dafydd Dafis.

Os hoffech fod ar restr e-bostio Cerddwyr Cylch Teifi, cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com neu ffoniwch 01239 654561.