Cynhaliwyd Cystadleuaeth Ddramau CFfI Ceredigion yn Theatr Felinfach yn ddiweddar lle bu pymtheg clwb yn cystadlu am bum noson.

Aelodau Clwb Pontsian enillodd y gystadleuaeth gyda'u perfformiad o 'Olli'. Nhw hefyd oedd enillwyr y script, y set orau a'r cynhyrchiad gorau.

Byddant yn mynd ymlaen i gynrychioli'r sir yn y gystadleuaeth dros Gymru yng Nghaernarfon yn fuan.