Brought to you by
Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae’n bleser gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) gyhoeddi lansiad cyfres o sesiynau galw heibio cymunedol gyda'r nod o gasglu mewnbwn gwerthfawr gan breswylwyr a rhanddeiliaid, er mwyn helpu i nodi unrhyw faterion neu heriau y gallai'r Gwasanaeth eu hwynebu wrth roi Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) 2040 ar waith.
Mae Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 yn amlinellu ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r risgiau, y bygythiadau a'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau. Fel rhan o'n hymdrechion parhaus i sicrhau diogelwch a lles yr holl breswylwyr, rydym yn gofyn i aelodau ein cymuned chwarae rhan weithredol i lywio’r cynllun hanfodol hwn.
Mae dyddiadau a lleoliadau’r sesiynau galw heibio i’w gweld ar ein gwefan.
Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn llwyfan ar gyfer deialog agored, gan alluogi i aelodau'r gymuned rannu eu syniadau, eu pryderon a'u hawgrymiadau. Trwy weithio gyda'n gilydd, ein nod yw creu Gwasanaeth Tân ac Achub modern sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ein cymunedau.
Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân, Iwan Cray: "Credwn mai'r ffordd orau o wasanaethu ein cymunedau yw drwy eu cynnwys yn y broses gynllunio. Mae'r sesiynau galw heibio hyn yn gyfle i ni wrando, dysgu a chydweithio â'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."
Mae Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 yn rhoi’r pwyslais ar ddull sy’n seiliedig ar ddata er mwyn nodi risgiau a theilwra ein gwasanaethau yn unol â hynny. Trwy ganolbwyntio ar swyddogaethau atal, amddiffyn ac ymateb, ein nod yw lleihau effaith argyfyngau a gwella diogelwch y cyhoedd.
"Rydym yn annog pob aelod o'r gymuned i ddod i’r sesiynau galw heibio hyn a chyfrannu at ddatblygu Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy i'n helpu i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru yn fwy diogel a chydnerth.
"Rydym yn croesawu eich adborth ac yn cynnig y cyfle i chi ennill taleb £100 Amazon! Y cyfan sydd angen i chi wneud yw ymweld ag un o'n sesiynau galw heibio a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gwblhau ein harolwg."
Am fwy o wybodaeth am y cynllun neu unrhyw un o'n sesiynau galw heibio, ewch i'n gwefan, neu cysylltwch â'r tîm yn crmp@mawwfire.gov.uk
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymroddedig i ddiogelu a gwasanaethu cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru. Trwy atal, amddiffyn ac ymateb, rydym yn ymdrechu i sicrhau diogelwch a lles yr holl breswylwyr ac ymwelwyr.
Share