ROEDD hi'n cael ei hadnabod fel menyw fwya gwyllt y byd pop yn ei dyddiau gyda Catatonia, ond mae Cerys Matthews yn un am ddychweled at ei gwreiddiau.

Yn ddiweddar fuodd hi'n l yn un o'i hoff gyrchleoedd y Sloop Inn ym Mhorthgain, ddim yn bell o gartref ei rhieni yn Nhrefin, yn diddanu yn ddiseremoni gyda gitar a llais.

Tro yn l fues i'n siarad hi ychydig wedi ymddangosiad ei halbwm gyntaf ers gadael y swpergrwp, ac roedd bob arwydd mai dyma oedd rywun oedd am newid ei bywyd.

Mae'n broblem sy'n gwynebu llawer mwy o bobl y dyddiau yma yn oes yr enwogion Efallai bod y sylw yn dod ag arian mawr i chi (yn aml iawm ddim cymaint ag y byddai dyn yn ei feddwl). Yn aml iawn mae'n dod llu o broblemau eraill - diod, cyffuriau, perthynas yn methu.

Ac wedi'r pymtheg munud o enwogrwydd, beth nesaf?

I Cerys, yn sicr, cariad newydd gyda'i gwr o Nashville, merch fach, ac ymgais i ail-greu ei gyrfa ar eu thelerau hi.

Fis diwethaf gwelwyd hi ar lwyfan y Sesiwn Fawr Dolgellau gyda'i band o Nashville, galon y byd pop yn America lle mae hi nawr wedi ymgartrefu.

Roedd hi'n chwarae gitar, offeryn mae hi'n dal i'w ddysgu, a geriach y seren roc i gyd wedi diflannu.

Roedd hi'n cymeryd amser i dwymo ar y llwyfan a'r perfformiad yn llai na gwefreiddiol ar brydiau, mae'n rhaid cyfaddef.

Ond mae gyda hi ei llais unigryw o hyd, gwn fawr ar ei gwyneb a theimlad wrth iddi hi ganu fersiwn arbennig o Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn a'r emyn Cymraeg Mi a Glywaf Dyner Lais roedd ei nain yn arfer ei ganu iddi yn ei chrud.

Dewr, heb os, i ddechrau fel petae o'r gwaelod eto, a gonest hefyd. Mae rhyw symlrwydd a swildod yn perthyn iddi hi, ac ar l y gig dim amser i siarad chyflwynwyr y rhaglen ar S4C, dim ond ysu gweld ei merch tu l i'r llwyfan.

Roedd yn fy'atgoffa i rhywfaint o yrfa Paul McCartney ar l chwalfa'r Beatles.

Roedd y beirniaid ar ei war, a fe yn troi lan gyda'i fand newydd Wings ym mhrifysgolion ar fyr rybudd ac am y nesaf peth i ddim i chwarae - achos y chwarae oedd yn bwysig. Ond fe brofodd Syr Paul fod gydag e'r dyfalbarhad.

A gobeithio bod yr un peth yn wir am Cerys, achos does dim amheuaeth mai y gerddoriaeth sydd yn bwysig iddi.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:

Cyrchleoedd - haunts Diddanu - to entertain Enwogion - celebrities Diod - drink Cyffuriau - drugs Telerau - terms Geriach - trappings Gwefreiddiol - thrilling Swildod - shyness Ysu - to crave Chwalfa - split Gwar - back of the neck Ar fyr rybudd - at short notice Dyfalbarhad - staying power