BYDD Cwmni’r Frân Wen yn cyflwyno drama Gymraeg rymus newydd gyda Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins yn Theatr Mwldan ar dydd Llun, Medi 28, am 7.30yh.
Wyt ti erioed wedi teimlo ar goll? Fel bod bywyd ar loop? Yn ailadrodd ei hun yn dragywydd? Wyt ti erioed wedi gofyn wrtho ti dy hun pwy wyt ti go iawn?
Dyma ddrama gan y dramodydd ifanc Llyr Titus am ddau unigolyn sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd.
O’r cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn i eiliadau o chwerthin a hiwmor - drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol.
Mae tocynnau ar gyfer y perfformiad Drych ar ddydd Llun, Medi 28, ar gael o swyddfa docynnau Theatr Mwldan ar 01239 621200, ar-lein neu ar eich ffôn clyfar ar www.mwldan.co.uk
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here