OS ydych chi'n un o'r cannoedd o bobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Penfro a Doc Benfro mae'na gyfle newydd i chi ymarfer yr iaith.

Ac mae croeso mawr i chi hefyd os ych chi'n un sydd yn siarad yr iaith yn barod, neu sydd wedi ei siarad neu ei dysgu ac wedi ei cholli.

Mae'r boreau coffi yng Nghanolfan Ddysgu Cymunedol (Coronation) Doc Benfro yn agored i bob safon o ddysgwr neu Gymro i ddod am baned a sgwrs.

Menter Iaith Sir Benfro sy tu l i'r prosiect wrth iddyn nhw gasglu gwybodaeth am cyflwr yr iaith yng ngwaelodion y sir.

"Un o'r pethau ryn ni'n moyn gwybod yw sefyllfa'r iaith yn Noc Benfro a Phenfro ei hun," meddai Louvain Jones, sydd yn byw yn Aberdaugleddau ac yn gweithio ar brosiect anffurfiol i'r Fenter Iaith ar hyn o bryd.

"Yn ni hefyd yn siarad busnesau am beth maen nhw'n moyn ac yn eu helpu os ydyn nhw am gyflwyno arwyddion dwyieithog ac ati.

"Mae'r niferoedd yn dal i gynyddu yn y dosbarthiadau nos, mae rhwng 300-400 yn dysgu ar hyn o bryd yn cynnwys Hwlffordd ac Aberdaugleddau.

"Ond does dim gwybodaeth am faint sydd wedi dysgu'r iaith ac wedi'i cholli, neu efallai wedi colli'r hyder i'w siarad neu ddim yn cael y cyfle.

"Yn ni'n gobeithio bydd llawer o bobl sy'n gwneud y gwahanol cyrsiau nos yn dod i'r boreau coffi, a Chymry Cymraeg hefyd."

Bydd y boreau coffi yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis, ond am y gwyliau. Bydd yr un nesaf ar Ebrill 19 ac wedyn ar Fai 3.

Hefyd ar bob bore Mawrth, tu allan i'r gwyliau, mae Tecwyn Ifan o'r Fenter Iaith yn bresennol yn y ganolfan rhwng 10yb ac hanner dydd yn barod i ateb cwestiynau a rhoi cyngor i fusnesau ar faterion i ymwneud 'r iaith.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys, er enghraifft, trosi bwydlen i'r Gymraeg neu lunio arwyddion dwyieithog.

Am ragor o fanylion cysylltwch Louvain Jones ar 07817 421615 neu'r Fenter Iaith ar 01239 831129.

Daeth hyd at 10,000 o bobl i weld Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod blwyddyn gyntaf y fenter a ddaeth chynhyrchiadau i theatrau y Torch a Mwldan.

Amrywiodd y cynyrchiadau o ddrama gignoeth Meic Povey, Yn debyg iawn i ti a fi, Romeo a Juliet a Plas Drycin, sef drama gomedi.

Mae'r cwmni bellach yn barod ar gyfer y cynhyrchiad nesaf, Ty ar y Tywod gan y diweddar Gwenlyn Parry. Bydd yn dod i Theatr Lyric, Caerfyrddin, ar Fai 4, a Theatr Mwldan, Aberteifi ar Fai 13-14.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.

Cyflwr - state Gwaelodion y sir - south of the county Trosi - to translate Bwydlen - menu Amrywio - to vary