MAE Sir Benfro wedi mwynhau cryn dipyn o sylw ar y sgrin fach yn ddiweddar - o gyfres hwyliog y cyflwynydd Jamie Owen i un newydd Huw Edwards, Land of Dreams.

Ac i ferch o'r Preselau dyma wlad ei breuddwydion mewn gwirionedd wrth i raglen WawFfactor gyrraedd ei huchafbwynt.

I chi sy ddim yn gyfarwydd hi, WawFfactor ydy'r fersiwn Gymraeg o'r X-factor- ond yn llawer llawer mwy caredig i'r cystadleuwyr.

Ac i chi sy ddim yn gyfarwydd 'r X-factor, sioe yw hi sy'n rhoi perfformwyr ifanc llawn gobaith o flaen tri beirniad ac yn eu rhwygo yn rhacs.

Ond ta p'un, dyna beth yw adloniant heddiw.

Ond wedi wythnosau o glyweliadau, perfformiadau, newid gwisgoedd, chwerthin a dagrau, mae'r ugain cystadleuydd i lawr i'r tair olaf yn rownd derfynol WawFfactor a ddarlledir yn fyw ar nos Wener am 8.25pm ar S4C - gyda'r gwylwyr gartref yn dewis yr enillydd.

Dwi'n siwr bydd y ffonau yn ardal Maenclochog yn boeth achos yn eu mysg yw Lisa Haf of Fynachlog Ddu ynghyd Francesca Hughes o Brestatyn, a Rebecca Trehearn o'r Rhyl fydd yn ymladd am goron WawFfactor a'r cyfle i recordio CD.

"Roedd y rownd gynderfynol yn gyfle i mi brofi fy hun i'r beirniaid - fy mod i'n gallu ymdopi 'r camau yn ogystal 'r canu," meddai Lisa. "Cyrraedd y ffeinal oedd fy nod i - a nawr mae gen i un cyfle arall i brofi fy hun ac i fagu mwy o hyder!"

Mae'r gantores a'r gyfansoddwraig Caryl Parry Jones wedi bod yn gweithio gyda'r merched o'r cychwyn cyntaf ac mae ganddi air o gyngor i'r tair.

"Heb os nac oni bai mae'r tair yn deilwng o goron WawFfactor. Fy nghyngor i yw iddyn nhw berfformio'r gn ac i beidio bod yn swil nac ofni mynd amdani.

"Dwi'n trio eu hannog nhw i roi eu hunain yn esgidiau un o'u harwyr ar lwyfan. Bydden nhw'n disgwyl cael perfformiad cant y cant am eu harian ac ar WawFfactor, mae'r un peth yn wir.

"Mae'n rhaid iddyn nhw berfformio o'r galon a pheidio dal nl. Mae calibr y cantorion drwy gydol y gyfres wedi bod yn andros o uchel, ac rydym wedi ceisio adeiladu pethau yn raddol - o ganeuon byr, i ddawnsio, i ganeuon hirach ac yna i ganu'n fyw.

"Bydd y wobr yn mynd i'r berfformwraig orau ar y noson ym marn y cyhoedd - yr un sydd yn medru perfformio'n arbennig o dda o flaen cynulleidfa ar raglen fyw."

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi am 10.30pm ar nos Wener.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:

Breuddwydion - dreams Uchafbwynt - climax Rhwygo yn rhacs - to tear to pieces Adloniant - entertainment Clyweliadau - interviews Dagrau - tears Rownd gynderfynol - semi-final Ymdopi - to cope Teilwng - deserving Swil - shy Annog - to encourage Andros o uchel - extremely high