TRO yn l wnes i sgrifennu am ymgyrch gan bapur bro yn y Gogledd i dynnu sylw at rai o wallau ofnadwy sydd iu gweld ar arwyddion ffordd ac mewn siopau ledled y wlad. Wel dyma gm dda ir plant ar y teithiau hir yn ni i gyd yn eu gwneud mewn ceir dros yr haf faint o gamgymeriadau sillafu neu ramadegol gallech chi gyfrif yn ystod y daith. Dyma un er enghraifft cafodd ei weld ar arwydd yn Aberystwyth yn ddiweddar yn cyfeirio pobol at swyddfeydd y Cynulliad Swyddfa Llwodraeth Cynulliad Cymru. Ac yn Abertawe maen ymddangos bod rheolau gwahanol i siaradwyr Cymraeg nac ir rhai di-Gymraeg. Maen ymddangos bod yr iaith Gymraeg yn mynd llawer ymhellach pan maen dod i arwyddion ffyrdd yn y ddinas. Maer cyngor wedi codi arwydd yn rhybuddio gyrrwyr ceir am dwmpathau cyflymdra yn ardal Clydach. Yn l yr arwydd Saesneg maer twmpathau yn 15 o lathenni i ffwrdd, yn l yr arwydd Gymraeg, maen nhwn ugain o lathenni i ffwrdd!

Dda i weld bod y Cymry yn bell oi blaen hi pan maen dod i yrru ceir.

Fyddain dda gyda fi glywed am unrhywbeth ych chin torri ar ei draws trach bod chi ar y ffyrdd yr haf yma.

WRTH i ffiguraur Cyfrifiad 2001 yn dod yn hysbys maena newyddion canologol am gyflwr yr iaith yn Sir Benfro.

Yn y sir yma maer nifer wedi codi bron 4,000 i gynrychioli 22 y cant or boblogaeth. Yng Ngheredigion maer niferoedd wedi codi rhyw 1,700 ond wedi gostwng fel canran, effaith efallai pwysedd nifer y mewnfudwyr yn y sir.

Mae ffigurau Sir Gaerfyrddin wedi achosi peth siom i gefnogwyr yr iaith gyda nifer y Cymry Cymraeg yn gostwng rhyw 5,000 ar canran hefyd wedi disgyn fel bod 50 y cant yn unig nawr yn cyfrif eu hunain yn siaradwyr Cymraeg.

Yn Sir Benfro mae 23,686 yn siarad yr iaith, yng Ngheredigion 37,772, yn Sir Gaerfyrddin 83,802 ac yng Nghymru yn gyffredinol, 575,640.

Fel canran maer ffigurau yn dangos 22 y cant yn Sir Benfro, 52 y cant yng Ngheredigion, 50 y cant yn Sir G,r ac 20.5 y cant yng Nghymru gyfan.

Ffaith diddorol iawn yw bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi codi hyd at 32,000 mwy o bobol nag syn byw yn y sir yma.

Maer golofn yma yn croesawu sylwadau, cyfraniadau neu awgrymiadau. Ysgrifennwch ataf o dan ofal y Western Telegraph, Old Hakin Road, Merlins Bridge, Hwlffordd SA61 1XF, neu e-bostiwch: ej@macunlimited.net

GEIRFA I DDYSGWYR

Ymgyrch - campaign Gwallau - mistakes Camgymeriadau - errors Sillafu - to spell Cyfeirio - to direct Twmpathau cyflymdra - speed humps Llathen - yard Hysbys - public Cyflwr - state Cynrychioli - to represent Canran - percentage Pwysedd - pressure Mewnfudwyr - incomers Siom - disappointment Gostwng - to go down Sylwadau - comments Cyfraniadau - contributions Awgrymiadau - suggestions