Merched Y Wawr Hwlffordd Ar y 3ydd. Hydref daeth nifer sylweddol I Neuadd yr Eglwys, Prendergast I wrando ar Mrs Glesni Williams yn son am faner Sir Benfro. Cynlluniwyd y faner gan yr artistiaid tecstiliau, Mrs Eirian Short a Mrs Audrey Walker I gynfynd a geiriau Gwenno Dafydd 'Cenwch y Clychau I Dewi' sydd wedi eu derbyn gan y Senedd I fod yn gan genedlaethol Cymru are Dydd Gwyl Dewi. Aelodau o Urdd y Brodweithwyr a wnaeth y gwaith pwytho celfydd. Mae'n un o drysorau ein/sir ac fe'I gwelwch yn hongain yn ei chartref parhaol yn yr Eglwys Gadeiriol yn Nhy Ddewi.

Croeso I'r cyfarfod nesaf ar 7ed. Tachwedd gyda'r sigradwraig Miss Catherine Perkins.